Goleuo’r Nadolig 2021
Gweld Wal y Goleuadau
Yn 2020, y flwyddyn agoriadol, helpodd yr arddangosfa anhygoel ar y tirnod eiconig ym Mangor gannoedd o bobl ledled Gogledd Cymru a thu hwnt i gofio anwyliaid absennol yn annwyl, a dathlu’r rhai o’n cwmpas sy’n llenwi’r byd â goleuni. Eleni, mae Goleuo’r Nadolig yn ôl – ac mae’n addo bod yn fwy, yn fwy disglair, ac yn well nag erioed.
Cyflwynwch eich teyrnged heddiw a bydd eich golau yn disgleirio’n llachar fel rhan o osodiad hyfryd ar Bier eiconig y Garth ym Mangor yn yr wythnosau o gwmpas y Nadolig. Bydd eich teyrnged yn ymddangos ar y “Wal Goleuadau” digidol, a gellid ei gynnwys mewn sioe taflunydd teithio. Bydd pob rhodd o fudd i gleifion sy’n derbyn gofal mewn ysbytai a’n cymunedau lleol.
Prynu tocyn
Gwnewch deyrnged
Seremoni Goleuadau 2021
Ymunwch â ni ddydd Gwener y 10fed Rhagfyr rhwng 6yh a 9yh am y noson gyntaf y bydd y goleuadau pier ymlaen. Mwynhewch gerddoriaeth, adloniant, bwyd, ac arddangosfa daflunio gan gynnwys eich teyrngedau. Dewch â’ch teulu am noson arbennig iawn a helpwch i fywiogi diwedd yr hyn a fu’n flwyddyn dywyll i lawer. Mae tocynnau cyfyngedig ar gael.
Taith Teyrngedau 2021
Fel Elusen GIG Gogledd Cymru, mae angen i Awyr Las arwain y ffordd wrth sicrhau mai dim ond y rhai sydd wir angen bod yn ein hysbytai sy’n ymweld â’n hysbytai ar hyn o bryd, ac am y rheswm yma mae’n rhaid i ni ohirio’r Daith Teyrngedau tan fis Mawrth 2022. Mae hyn nawr yn golygu y bydd yr holl teyrngedau wnaed cyn yr 20fed o Ragfyr nawr yn ymddangos ar waliau ein hysbytai yn 2022. Bydd mwy o wybodaeth am y Daith Teyrnged sydd yn cael ei hail drefnu ar gael mis Ionawr 2022. Mae’n ddrwg gennyf am yr anghyfleustra a’r siom y gallai hyn ei achosi.
Wal Goleuadau
Bydd eich teyrnged yn ymddangos ar y Wal Goleuadau ar-lein arbennig, a wellwyd ar gyfer 2021. Chwiliwch am deyrngedau a gyflwynwyd gennych chi ac eraill yn y gymuned, a rhannwch eich teyrngedau digidol gyda ffrindiau a theulu.
Beth gewch chi pan fyddwch chi’n rhoi
Pan fyddwch chi’n cyfrannu at Goleuo’r Nadolig:
- Anfonir teyrnged ddigidol atoch i’w rhannu trwy eich rhwydweithiau ar-lein
- Bydd eich teyrnged ddigidol yn cael ei chynnwys ar Wal y Goleuadau
- Bydd golau yn cael ei gysegru ar Bier Bangor
- Bydd cofrodd sy’n cynnwys eich teyrnged yn cael ei bostio atoch
Yn ogystal, gall eich teyrnged ymddangos yn Nhaith y Teyrngedau ac yn yr arddangosfa daflunio ar Bier Bangor ar 10fed Rhagfyr 2021. Sylwch: er mwyn gwarantu eich bod yn cael ei chynnwys yn y arddangosfa daflunio ar 10fed Rhagfyr, rhaid derbyn teyrngedau erbyn 23:59 ar ddydd Iau 9fed Rhagfyr. Bydd teyrngedau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu cynnwys ar y Wal Goleuadau, a byddwch yn dal i dderbyn cofrod.
Cwestiynau? Cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Awyr Las:
awyrlas@wales.nhs.uk • 01248 384 395 • Negesydd Facebook: m.me/awyrlascharity
Ni fyddai Goleuo’r Nadolig yn bosibl heb gefnogaeth hael unigolion, busnesau a sefydliadau cymunedol lleol.
Diolch i noddwyr y digwyddiad:
Watkin Property Ventures
(Prif Noddwr)
Prifysgol Bangor University
(Noddwr Platinwm)
Imtech Engineering Services
(Noddwr Platinwm)
VINCI Construction UK Limited
(Noddwr Platinwm)
Castle Green Homes Ltd
(Noddwr Aur)
Varcity Living
(Noddwr Aur)