Addewid Codi Arian Awyr Las
Bydd eich cefnogaeth yn helpu i drawsnewid bywydau cleifion ledled Gogledd Cymru, a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, eu teuluoedd a thimau’r GIG sy’n gofalu amdanyn nhw. Mae pawb sy’n ymwneud ag Awyr Las a phob un o’r rheiny sy’n cyflenwi’r gwasanaethau gofal iechyd rydych chi’n eu cefnogi, yn hynod ddiolchgar i chi am ddewis cefnogi’r elusen.
Mae aelodau Pwyllgor Elusen Awyr Las sy’n llywodraethu’r Elusen, Ymgynghorwyr y Gronfa sy’n arolygu cronfeydd ac aelodau Tîm Cymorth Awyr Las sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i gefnogwyr yr elusen, i gyd yn addo bod yn onest ac yn agored ac i’ch trin â pharch.
Dyma ein haddewid codi arian i chi.
Rydyn ni’n addo:
- Gofalu fod pob gweithgaredd codi arian yn dilyn arferion da, yn foesegol ac yn gyfreithlon.
- Cydymffurfio bob amser â Chod Ymarfer y Rheolydd Codi Arian
- Cadw eich manylion cyswllt yn ddiogel a pheidio byth â’u gwerthu na’u ffeirio
- Cysylltu â chi yn y ffordd a gytunwyd â chi ac anfon gwahoddiadau a gwybodaeth a fydd o ddiddordeb i chi yn ein tyb ni, atoch chi
- Gwrando, dysgu a chymryd camau priodol os bydd gennych bryderon neu gŵyn
- Eich cadw’n ddiweddar â’r ffordd y bydd cefnogaeth fel eich cefnogaeth chi’n gwella, yn trawsnewid ac yn gloywi bywydau cleifion
- Gwneud ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon yn eglur ac yn hawdd eu deall
Gallwch ddisgwyl:
- Cefnogaeth gennym ni gyda’ch gweithgareddau codi arian
- I ni fod yn ddiolchgar am eich cefnogaeth a pheidio â rhoi pwysau arnoch chi i godi arian neu i roi mwy nag y byddwn chi’n ei ddymuno
- I reoli’r ffordd y byddwn yn cyfathrebu â chi, boed hynny drwy’r post, e-bost, ffôn neu SMS
- I ymateb i unrhyw ymholiadau y byddwch yn eu hanfon atom ni drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu ar y ffôn o fewn 5 diwrnod gwaith
Fe wnawn ni ystyried unrhyw bryderon neu gwynion fydd gennych chi’n ddifrifol iawn. Os hoffech fynegi pryder neu gŵyn dylech:
- Gysylltu â Phennaeth Codi Arian Awyr Las drwy e-bostio awyrlas@wales.nhs.uk <mailto:awyrlas@wales.nhs.uk>, ffonio 01248 384395, neu bostio at Awyr Las, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW. Dylech dderbyn ymateb cychwynnol o fewn 5 diwrnod gwaith o roi eich cwyn.
- Os byddwch yn anfodlon â’r ymateb cychwynnol neu’r ffordd y delir â’ch pryder neu eich cwyn, dylech gysylltu â Phennaeth Gwasanaethau Ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy ddefnyddio’r un manylion cyswllt â’r uchod. Dylech dderbyn ymateb cychwynnol o fewn 5 diwrnod gwaith i roi eich cwyn.
- Os dymunwch fynd â’ch cwyn ymhellach oherwydd eich bod yn dal i fod yn anfodlon a’r ymateb gan y Pennaeth Codi Arian a Phennaeth y Gwasanaethau Ariannol, dylech gysylltu â Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Dylech dderbyn ymateb cychwynol o fewn 4 diwrnod gwaith o roi eich cwyn.
- Os hoffech i gorff annibynnol ymchwilio eich pryderon, mae’n rhaid i chi yn gyntaf fod wedi rhoi’r cyfle i ni ddatrys eich pryderon neu eich cwyn drwy ein proses fewnol ein hunain. Yna gallwch gysylltu â’r Rheolydd Codi Arian. Mae ei fanylion cyswllt i’w cael ar: https://www.fundraisingregulat….
Diolch i chi unwaith eto am gefnogi Awyr Las, a helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion yng Ngogledd Cymru. Rydyn ni’n addo rhoi’r profiad gorau a allwn ni i chi pryd bynnag y byddwch yn dewis cefnogi eich Elusen GIG.